lunes, 5 de octubre de 2009
POESÍA GANADORA - PREMIO "Telyn"
YMA
Yma, ddâr gynnar awr o bell wawr o’r ddynol oes
crwydro bu y helwr du
ar led a hyd ei eang, gwastad fyd,
dan wyneb y Deheuol Groes.
Pan, yn ei dryblith ac er ei waeth
daeth y Bortigwal o’i long i lawr,
“Cewri!”, gweiddodd yn ei syndod
wrth weld anferth olion traed ar swnd y draeth
a thybio am hynny fod trigolion
o faint mawr,
yma.
Llithrodd canrifoedd ymaith
nes bu glaniad y croenwynion tlawd,
bochau coch a chryndod oerfel yn eu cnawd
yma, ar yr anial draeth, llwyd a llaith.
Mor nerthol eu huchelgais
am ddaear newydd a newydd wawr,
am wlad i gadw’r Gelteg lais yn fyw a phur
nes mentro mudo’n urdd dros ddyfroedd mawr
o’r Walia wyrdd a phell,
drwy obaith yn Ei Grâs â’i Fendith...
at ddigyfeillgar draethell y diliw Dewelia dîr...
...a blodeuodd yma y Geltaidd waed
pan geno’r eneth gynta mewn ogof yn y graig
a bu, dan olau’r lloer, newydd suo gan
ar awel
o’r hen iaeth Gymraeg
yn swyno su y tonnau oer yn darfodi’n dawel
ar draeth o swnd a chregyn mân.
Cyhwrddodd y ddwy genhedlaeth
yma,
mewn hedd yn eu cydwasanaeth:
bu’r bara prin yn rhodd gyfeillgar i’r tywyll
a’r killango ym modd o dwym i’r gwyn.
ar gyfer y gaeaf hyll.
Gwelodd y Cymro yn iaeth brodor y paith
fod ystyr yn ei safon wrth enwi llyn, neu afon,
ond hefyd, megis gwych gystadlaeth,
cafodd synnwyr i enwi’r Chúbët,
gloyw yn ei phell ac huchel gychwyn,
gwell yn “Gamwy” yn ei hisel ddyffryn.
Byrhoedlog bu’r enwau yna,
Chubut yduw heddiw,
a dyna enw ein talaith, yma.
...a llufod y dyfroedd...
a thrwy lithrad yr amseroedd
toddwyd asglodau o’r ddau ddiwylliant
i sodro sylfeini adeilad eu cyd dynged...
nes y daethwn yn naturiol i weld a chlywed
ar lwyfanau’r eisteddfodau, y cultrun
ger y delyn
ac epiliad llwythau Jackejan neu Orkekum
yn swynol gymysgu eu lleisiau â llinach
fintau’r Vesta â’r Mimosa
mewn siriol a pharchus ymgais
ar drefniad o lonkomeo ar bedwar llais,
neu hwyrach,
ar emyn Williams Pantycelyn.
Ac, fel llifa ddwr o lawer nant
i nerthu ffrwd ein hafon, felly,
gwaed y tehuelche a’r Cymro,
ac eraill yn llu,
i gyd o’r un coch liw,
cydlifo maent yng ngwythiennau’r plant...
ein plant ni,
heddiw,
yma.
LEWFFW (Nantlais Evans)
Suscribirse a:
Enviar comentarios (Atom)
PREMIO MIMOSA
PREMIO TELYN 2009
ceremonia en gales
EDICION 2008
EDICIÓN 2008
EDICIÓN 2007
EDICIÓN 2007
No hay comentarios:
Publicar un comentario